Gwneud y Wefan hon yn Dudalen Hafan i Chi
Mae’r porwyr i gyd ychydig yn wahanol ond, er bod y geiriau y maent yn eu defnyddio’n amrywio, mae’r rhan fwyaf yn gweithio mewn ffordd ddigon tebyg. Dylai’r cyfarwyddiadau dilynol weithio gyda’r mwyafrif o borwyr cyfredol.
- Ewch i’r dudalen rydych eisiau ei dewis fel eich tudalen hafan.
- Agorwch y brif ddewislen o offer rhyngrwyd yn eich porwr – efallai mai’r enw ar hwn yw Tools, Edit, Firefox, Opera neu Safari (yn dibynnu ar eich porwr a’ch system weithredu)
- Dewiswch y tab o’r enw 'General', 'Preferences', 'Options' neu 'Internet Options' (yn dibynnu ar eich porwr).
- Efallai y gwelwch fotwm o’r enw ‘Use current page’ neu ‘Use current’. Os felly, cliciwch y botwm yma, yna cliciwch OK. Cadwch y dudalen roeddech yn edrych arni fel eich tudalen hafan ac ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth arall.
- Os na welwch chi’r botwm yma, chwiliwch am focs o’r enw 'Homepage', 'Homepage location' neu rywbeth tebyg, a fydd yn cynnwys URL (gwe-gyfeiriad) eich tudalen hafan gyfredol. Teipiwch http://www.holywell-town.gov.uk/, neu gyfeiriad y dudalen yr ydych ei heisiau, i mewn i’r blwch yma a chliciwch OK. Bydd eich tudalen hafan newydd wedi’i gosod.
- Os byddwch angen rhagor o gymorth i osod eich tudalen hafan, edrychwch ar ddewislen Help eich porwr.