SOS - Angen cymorth

Eleni yw’r degfed gylchwyl o’r Cytundeb Cyfeillio rhwng Treffynnon a StGregoire ac mi fydd mwy o’n ffrindiau Llydawaidd na fel arfer yn ymweld â Threffynnon ac rydym yn dal i edrych am deuluoedd lleol i gynnig llety i rhai o’n gwesteion.

Bydd y grŵp yn cyrraedd ar Ddydd Iau 17 Mai ac yn aros am dair noson.  Bydd angen iddyn nhw gael gwely, borebryd a phryd o fwyd ar y gyda’r nos o Ddydd Iau a Dydd Gwener a byrbryd canol dydd ar y Dydd Sadwrn. Bydd yna bryd o fwyd cymunedol i bawb sy’n cymryd rhan ar y nos Sadwrn.

Hefyd, bydd y rhai sy’n cynnig llety yn cael y cyfle i gymryd rhan yn yr ymweliad cyfeilio i Lydaw yn 2013.

Os fedrwch helpu dangos croeso cynnes Cymreig i’n ffrindiau Llydaweg, cysylltwch â Pauline neu Les Ellis o Gymdeithas Cyfeillio Treffynnon a’r Cyffiniau trwy ffonio 01352 710853 neu trwy e-bost i: celynvilla@btinternet.com  
 

 


 

Posted on Apr 22, 2012 - 05:52 PM

Hwylio’r byd o Dreffynnon

Mae Holywell Travel yn 46C Stryd Fawr, sy’n dathlu pum mlynedd lwyddiannus o fasnachu yn y dref, newydd lansio gwefan newydd yn arbenigo mewn mordeithiau: www.oceancruiseclub.co.uk

Mae yna dros 20,000 o fordeithiau cefnforoedd ac ar hyd afonydd sy’n berffaith i fordeithwyr newydd neu’r rhai sy’n fordeithio’n rheolaidd ac yn siop unalwad am bob cwmni fordeithio yn y byd. Mae’r holl wybodaeth sy’n angenrheidiol ar gyfer fordeithio i gyd ar y safle we hwn, un cynnwys manylion manwl am bob taith, disgrifiadau o borthladdoedd, gwybodaeth ddefnyddiol am y llongau fordeithu ag arweiniad yn ymwneud â phrisiau diweddaraf. Ar y safle welwch fordeithiau ar gyfer pob diddordeb, os rydych yn edrych am hwyl, haul a thraethau neu antur, diwylliant neu weld golygfeydd.

Ewch i’r safle we i weld y dewis eich hun ac wedyn ffoniwch linell bwrpasol Holywell Travel ar gyfer mordeithiau, 0844 2098914 i gael mwy o fanylion neu i drafod y fordaith o’ch dewis.

 

 

Posted on Apr 13, 2012 - 06:31 PM

Cadw’r dref yn daclus

Mae Grŵp Trawsnewid Treffynnon a’r Cyffiniau a Chadwch Gymru’n daclus wedi trefnu casglu ysbwriel mewn tri man yn y dref ar Ddydd Sadwrn 21 Ebrill ac y meant yn rhoi gwadd i unrhyw unigolion neu grwpiau yn awyddus gweld eu tref yn cael ei chdw,n daclus i gymryd rhan.

Bydd yna ddewis o dair ardal i gasglu ysbwriel ac mi fydd unrhyw unigolion neu grŵp efo diddordeb yn medru troi fyny ar y diwrnod ble fyddan yn cael eu cwrdd gan ‘Bennaeth tîm’.   

Bydd y celfi sy’n angenrheidiol ar gael ar y diwrnod

 

  • Tŷ Cymunedol yr Holway
  • Safle’r hen Ysgol Ramadeg, Parc y Strand
  • Dyffryn Maesglas, maes parcio tŷ tafarn y Royal Oak

 

Yn dilyn y gwaith o gasglu ysbwriel mae pawb yn cael eu gofyn i gwrdd wrth y caffi Mill on the Hill am 12.15 i’w wneud brys taclus o’r safle cyn cael lluniaeth yn ddi-dâl fel diolch am helpu.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Judith Wright ar 07717 495188 neu ar judith.wright@keepwalestidy.org neu Rob Owen, Transition Group, ar 01352 710714.

 

Posted on Apr 10, 2012 - 04:46 PM

Parc treftadaeth yn lansio atyniad newydd

Mae Parc treftadaeth Dyffryn Maesglas wedi lansio atyniad newydd ar gyfer tymor twristiaeth 2012.

Atyniad diweddaraf y parc ar gyfer ymwelwyr yw llwybr coedwigaidd swynol ag enwyd Coedwig Annwn; byd hudol y Tylwyth Teg bydd ymwelwyr yn medru treiddio ar ôl pasio trwy hen goeden.

Amcan y llwybr yw ysbrydoli ac annog plant i ddysgu am goed, natur a chwedloniaeth Geltaidd ac os wnawn astudio’r wybodaeth cawn am goed, dilyn y cliwiau byddan yn cael ac yn edrych yn ofalus, byddan yn medru dod o hyd i’r Tylwyth Teg a bydd yn y ffurf o drychfil yng nghuddiad yn y goedwig.

Posted on Apr 04, 2012 - 05:11 PM

Cyngor y dref yn cynnig cyfle am swydd

Mae Cyngor Tref Treffynnon yn edrych i gyflogi Swyddog Cefnogi’r Gymuned ac yn gwahodd ceisiadau gan unrhyw un efo diddordeb yn y swydd hon.  Y tâl sydd ar gynnig yw £15,145 am weithio 22 awr yr wythnos a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn seiliedig yn swyddfeydd y cyngor yn Bank Place

Bydd prif ddyletswyddau’r Swyddog Cefnogi’r Gymuned yn cynnwys cefnogi, annog a rheoli amrywiaeth mawr o elfennau i gynnal a gwella canol tref a chymuned Treffynnon ynghyd â chefnogi gwaith gweinyddol y Cyngor.

Gallwch gysylltu â Colin Pierce, clerc cyngor y dref, dros y ffôn ar: 01352 711757 neu trwy e-bost ar Holywelltown@btconnect.com  i gael ffurflen cais, disgrifiad swydd/manylion personol ac i gael sgwrs anffurfiol am y swydd.

Y dyddiad cau am y swydd yw hanner dydd ar Ddydd Gwener 20 Ebrill ’12 a bydd rhaid i ymgeiswyr ddychwelyd eu ffurflenni cais at: Clerc y Dref Treffynnon, Swyddfeydd Bank Place, Treffynnon CH8 7TJ erbyn hynny.

Y bwriad yw cynnal y cyfweliadau yn yr wythnos sy’n cychwyn 30 Ebrill ‘12.

  

Posted on Apr 03, 2012 - 04:36 PM

Band y dref yn dathlu llwyddiant mewn cystadleuaeth

Mae aelodau o Fand Treffynnon yn dathlu eu llwyddiant ar ôl ennill trydydd lle yn y Gystadleuaeth  ar gyfer Bandiau yng Nghymru a chafodd eu cynnal yn Abertawe

 

Posted on Mar 22, 2012 - 07:58 PM

Cyfle i’ch prosiect i gael cydnabyddiaeth

Mae Action for Market Towns - elusen sydd yn cynrychioli trefi marchnad a threfi bychain drwy’r DU, wedi lansio ei gynllun gwobr am 2012 efo sialens i drefi i ddweud wrth bawb be y maen nhw wedi llwyddo gwneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae AMT eisiau clywed gan gynghorau, grwpiau busnes a mudiadau gwirfoddol am brosiectau y meant wedi bod yn gyfrifol am y maen nhw’n teimlo sy’n haeddu cydnabyddiaeth am eu creadigaeth a’r lles y meant wedi dod i’w trefi.  Bydd y beirniadon yn ystyried ceisiadau  o nifer o feysydd, yn cynnwys: Amgylchedd a Diwylliant; Cymdeithasol a Chymunedol; Busnes a’r Economi; a Gweithio mewn Partneriaeth ac yn Strategol.

Mae prosiectau a chafodd eu cyflwyno gan enillwyr o’r blaen yn cynnwys rhai i wella safon amgylaidd daearyddol neu dref hyd at greu canolfannau busnes a cymunedol ac o fentrau cymunedol i helpu pobol efo methedigion i gael gwaith hyd at brosiect i ddod a wi-fi cyflymder uchel i ref fechan.

Y dyddiad cau ar gyfer y gwobrau eleni yw Dydd Gwener 23 o Fawrth.      

Mae manylion llawn, yn cynnwys cyfarwyddiadau a ffurflen gais ar gael trwy ymweld â:  http://towns.org.uk/market-town-awards/market-town-awards-2012/

 

Posted on Mar 07, 2012 - 06:43 PM

Y cyngor sir yn lansio cynllun grantiau newydd

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi lansio cynllun grantiau i wella safon adeiladau pwysig yn ystod ei chynhadledd ailenedigaeth a chynhaliwyd yn Yr Wyddgrug heddiw.

Amcan y cynllun grantiau yw hyrwyddo yr amgylchid adeiladol yn Nhreffynnon, Yr Wyddgrug, Talacre a Gronant trwy dargedu arian i adnewyddu adeiladau dibreswyl yn y llefydd hyn. 

Mae’r cynlyn grantiau diderfyn hwn ar gael i berchnogion a deliadau busnesau bach a cymedrol, neu gyrff sector cyhoeddus sy’n awyddus gwneud gwelliannau i hyrwyddo y tu allan o adeiladau ac i wella safon yr amgylchedd adeiladol yn gyffredinol.

Mae’r cynllun hwn wedi cael ei wneud yn bosibl oherwydd cael £150,000 o arian o Gynllun Datblygu Ardaloedd Gweledig dros Gymru 2007-2013 sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig. 

Caiff berchnogion neu ddeliadau adeiladau dibreswyl yn yr ardaloedd hyn yn awyddus cael rhagor o fanylion am y cynllun  trwy gysylltu â Carol Moore, Swyddog Prosiect Aileni, Cyngor Sir y Fflint ar 01352 702135.

Posted on Feb 24, 2012 - 04:12 PM

Cwmni newydd am lansio prosiect egni yn Nhreffynnon

Mae Anturiaeth Gymunedol Gorllewin Sir y Fflint; cwmni antur gymdeithasol sydd wedi ei sefydlu yn Nhreffynnon efo cefnogaeth Cymunedau Cyntaf Treffynnon a’r Cyffiniau, wedi cael grant o £15,560 i ddechrau proses o asesu adeiladau cymunedol ar gyfer arbed egni a/neu'r potensial am fesurau egni adnewyddiadol.

Yn ogystal â lleihau costau biliau am egni i ddeliadau’r adeiladau hyn, mae’r prosiect hefyd yn gobeithio creu cyfleoedd hyfforddiant a swyddi.  Y gobaith hefyd yw y bydd o’n bosibl creu  ffynhonnell incwm trwy werthu trydan dros ben sydd yn cael ei gynhyrchu gan baneli solaraidd ac wedyn buddsoddi’r arian yn y gymuned. 

Mae yna nifer o ddigwyddiadau i hysbysu a chael cefnogaeth y cyhoedd yn y prosiect hwn yn cael eu trefnu ac mi fydd yr un cyntaf yn cymryd lle ym Melin Celfyddydau a Chrefftau Treffynnon ar nos Lun 12 o Fawrth.
 

Posted on Feb 13, 2012 - 04:27 PM

Apêl am eitemau ar gyfer archif y dref

Mae Cymdeithas Treffynnon a’r Cyffiniau yn brysur casglu atgofion am y dref ac y maen nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un efo atgofion personol diddorol am y dref neu luniau, darluniau, dogfennau, llyfrau, ffilmiau 8mm neu fidio yn ymwneud â Threffynnon.

Mae sesiynau archif yn cymryd lle rhwng 10 y bore a hanner dydd pob Dydd Llun yn Llyfrgell Treffynnon ac mae’r gymdeithas yn gofyn i bobol ddod ag atgofion Treffynnon  yna i’w cael eu copïo ar gyfer yr archif yn ystod eu hymweliad cyn iddynt gael eu rhoi yn ôl iddynt i gadw’n ddiogel. 

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â chadeirydd y gymdeithas, Brian Taylor,dros y ffôn ar 01352 714840, trwy e-bost i enquiries@holywellsociety.org.uk  neu ymweld â safle we’r gymdeithas  www.holywellsociety.org.uk

 

Posted on Feb 10, 2012 - 10:20 AM

Marchnad ffermwyr am fod yn ddigwyddiad misol rheolaidd

Ar ôl nifer o ymweliadau llwyddiannus i Dreffynnon gan Grŵp Marchnad Ffermwyr Celyn yn ystod yr hanner olaf o 2011, mae Grŵp nawr wedi cyhoeddi bydd y farchnad yn ymweld â Threffynnon yn rheolaidd bob mis yn ystod 2012.  

Bydd y farchnad yng nghanol y dref rhwng 9 y bore ag 1 o gloch y prynhawn pob pedwerydd Ddydd Gwener yn y mis ac eithrio mis Rhagfyr pan fyd y farchnad yna ar y trydydd Dydd Gwener.  Mae’r farchnad yn gwerthu dewis eang o gynnyrch lleol yn cynnwys cig a physgod, ffrwythau a llysiau, cyffeithiau, piclau cymysg, caws ac wyau a niferoedd o fwydydd ac eitemau crefft eraill.

Mae ymweliad nesaf y farchnad i’r dre ar Ddydd Gwener 24 Chwefror.

I gael rhagor o wybodaeth am Farchnad Ffermwyr Celyn, ewch i: www.celynfarmersmarket.co.uk    

Posted on Feb 06, 2012 - 03:41 PM

Cynllun am ddau ymgyrch i lanhau’r dref yn cael eu cyhoeddi

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cyhoeddi ei bod nhw yn bwriadu trefnu dau ymgyrch casglu ysbwriel yn Nhreffynnon ac ei bod nhw yn awyddus clywed gan unrhyw grwpiau neu unigolion efo diddordeb mewn cymryd rhan.

Bydd y cyntaf yn cymryd lle ar Ddydd Sadwrn 18 Chwefror ac mi fydd Cadwch Gymru’n Daclus yn uno â gwardeiniaid o Barc Treftadaeth Dyffryn Maesglas, Cymunedau’n Gyntaf Treffynnon ac aelodau  Drawsnewid Treffynnon a’r Cyffiniau. Bydd yr ymgyrch yn dechrau am 10 y bore a’r bwriad yw glanhau’r llechwedd rhwng maes parcio Tesco a’r mynediad i Barc Treftadaeth Dyffryn Maesglas.

Mae’r ail un, efo’r enw ‘Stop the Drop’ yn un sy’n cynnwys yr holl dref am gymryd lle ar Ddydd Gwener 20 a Dydd Sadwrn 21 o Ebrill.  Mi fydd yr ymgyrch hwn yn cynnwys ysgolion Treffynnon ar y Dydd Gwener a grwpiau o wirfoddolwyr ar y Dydd Sadwrn.  Bydd y disgyblion a’r gwirfoddolwyr sy’n cymryd rhan yn medru dewis eu rhan nhw o’r dref i gasglu ysbwriel.

Caiff unrhyw grŵp neu unigolion yn awyddus i gymryd rhan mewn unrhyw un o’r digwyddiadau fwy o fanylion trwy gysylltu â swyddog prosiect Cadwch Gymru’n Daclus,  Judith Wright dros y ffôn ar: 07717 495188 neu trwy e-bost i: Judith.wright@keepwalestidy.org     

Posted on Feb 03, 2012 - 07:29 PM

Gwersi dawnsio newydd

Mae’r gwersi dawnsio mewn llinell roedd yn arfer cael eu cynnal yng Ngharmel nawr wedi symud i Felin Celfyddydau a Chrefftau Treffynnon yn agos o Ffynnon Sanctaidd y Santes Gwenffrewi ac yn cael eu cynnal pob nos Wener.

Mae gwersi ar gyfer y rhai sy’n hollol ddechreuwyr yn cymryd lle rhwng 6.30 a 7.30 yr hwyr ac wedyn gwersi ar gyfer dysgwyr o bob gallu yn mynd ymlaen tan 10 o gloch.  Mae yna groeso cynnes i bawb ac nid oes angen cael partner.

Am ragor o fanylion, ffoniwch y trefnydd, Julie Gabriel, ar 01352 713858.  

 

 

Posted on Jan 25, 2012 - 06:44 PM

Parc Gwledig yn cynnig cyfle busnes

Mae Ymddiriedolaeth Dyffryn Maesglas yn edrych am beth ei meant yn disgrifio fel ‘unigolyn neu gwmni efo’r ysbrydoliaeth i redeg y caffi a’i ddatblygu o mewn partneriaeth efo’r ymddiriedolaeth.

Rhai o’r pethau bydd yr ymddiriedolaeth yn edrych am gan yr ymgeisydd llwyddiannus yw'r gallu i godi proffil y caffi, sy’n medru cynnig bwyd a diodydd o safon uchel sydd wedi eu paratoi’n ffres yn defnyddio cynnyrch Masnach deg, opsiynau iach ar gyfer plant, dewis eang o brydau a byrbrydau oer a poeth yn defnyddio cynnyrch wedi eu ffynhonnellu yn lleol ac efo ymrwymiad i safon uchel o wasanaeth i gwsmeriaid.

Caiff unrhyw un efo diddordeb gael ragor o fanylion trwy gysylltu gyda rheolwr y parc, Chris Wright, dros y ffôn ar 01352 714172 neu gydag e-bost at: info@greenfield-valley.com   

 

  

Posted on Jan 14, 2012 - 07:55 PM

Arian ar gael ar gyfer prosiectau cymunedol

Mae asiantaeth datblygu ardaloedd gwledig, Cadwyn Clwyd, eisiau clywed gan unrhyw grwpiau yn Nhreffynnon efo diddordeb i wneud cais am grant o’i Gronfa Goriad Ardaloedd Gwledig i sefydlu neu ddatblygu prosiectau o dan reolaeth grwpiau cymunedol i wella safon byw neu gryfhau cynhwysedd yn y dre.

Bydd y grantiau yn medru ariannu 75% y gost o brosiectau cymwys sy’n costio hyd at £24,999. Mae’n bosibl hefyd bydd yn grant yn medru cael ei ddefnyddio i ariannu elfen arbennig o brosiect efo cost uwch.  Mae cyfanswm o £475,000 ar gael ac mi fydd yr arian yn cael ei gynnig i grwpiau ar y sail o gyntaf i ofyn.

Mae’r grant yn cael ei ariannu trwy Gynllun Datblygu Ardaloedd Gwledig Cymru 2007-2013 sydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewropeaidd Ar Gyfer Datblygu Ardaloedd Gweledig.

Caiff unrhyw grŵp gyda diddordeb fwy o fanylion trwy gysylltu efo Andrew Redfern yng Nghadwyn Clwyd ar 01824 705802 neu trwy e-bost at: Andrew.redfern@cadwynclwyd.co.uk

 

Posted on Jan 12, 2012 - 07:25 PM