Apêl am eitemau ar gyfer archif y dref

Mae Cymdeithas Treffynnon a’r Cyffiniau yn brysur casglu atgofion am y dref ac y maen nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un efo atgofion personol diddorol am y dref neu luniau, darluniau, dogfennau, llyfrau, ffilmiau 8mm neu fidio yn ymwneud â Threffynnon.

Mae sesiynau archif yn cymryd lle rhwng 10 y bore a hanner dydd pob Dydd Llun yn Llyfrgell Treffynnon ac mae’r gymdeithas yn gofyn i bobol ddod ag atgofion Treffynnon  yna i’w cael eu copïo ar gyfer yr archif yn ystod eu hymweliad cyn iddynt gael eu rhoi yn ôl iddynt i gadw’n ddiogel. 

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â chadeirydd y gymdeithas, Brian Taylor,dros y ffôn ar 01352 714840, trwy e-bost i enquiries@holywellsociety.org.uk  neu ymweld â safle we’r gymdeithas  www.holywellsociety.org.uk

 

Posted on Feb 10, 2012 - 10:20 AM