Parc Gwledig yn cynnig cyfle busnes
Mae Ymddiriedolaeth Dyffryn Maesglas yn edrych am beth ei meant yn disgrifio fel ‘unigolyn neu gwmni efo’r ysbrydoliaeth i redeg y caffi a’i ddatblygu o mewn partneriaeth efo’r ymddiriedolaeth.
Rhai o’r pethau bydd yr ymddiriedolaeth yn edrych am gan yr ymgeisydd llwyddiannus yw'r gallu i godi proffil y caffi, sy’n medru cynnig bwyd a diodydd o safon uchel sydd wedi eu paratoi’n ffres yn defnyddio cynnyrch Masnach deg, opsiynau iach ar gyfer plant, dewis eang o brydau a byrbrydau oer a poeth yn defnyddio cynnyrch wedi eu ffynhonnellu yn lleol ac efo ymrwymiad i safon uchel o wasanaeth i gwsmeriaid.
Caiff unrhyw un efo diddordeb gael ragor o fanylion trwy gysylltu gyda rheolwr y parc, Chris Wright, dros y ffôn ar 01352 714172 neu gydag e-bost at: info@greenfield-valley.com