Marchnad ffermwyr am fod yn ddigwyddiad misol rheolaidd

Ar ôl nifer o ymweliadau llwyddiannus i Dreffynnon gan Grŵp Marchnad Ffermwyr Celyn yn ystod yr hanner olaf o 2011, mae Grŵp nawr wedi cyhoeddi bydd y farchnad yn ymweld â Threffynnon yn rheolaidd bob mis yn ystod 2012.  

Bydd y farchnad yng nghanol y dref rhwng 9 y bore ag 1 o gloch y prynhawn pob pedwerydd Ddydd Gwener yn y mis ac eithrio mis Rhagfyr pan fyd y farchnad yna ar y trydydd Dydd Gwener.  Mae’r farchnad yn gwerthu dewis eang o gynnyrch lleol yn cynnwys cig a physgod, ffrwythau a llysiau, cyffeithiau, piclau cymysg, caws ac wyau a niferoedd o fwydydd ac eitemau crefft eraill.

Mae ymweliad nesaf y farchnad i’r dre ar Ddydd Gwener 24 Chwefror.

I gael rhagor o wybodaeth am Farchnad Ffermwyr Celyn, ewch i: www.celynfarmersmarket.co.uk    

Posted on Feb 06, 2012 - 03:41 PM