Arian ar gael ar gyfer prosiectau cymunedol

Mae asiantaeth datblygu ardaloedd gwledig, Cadwyn Clwyd, eisiau clywed gan unrhyw grwpiau yn Nhreffynnon efo diddordeb i wneud cais am grant o’i Gronfa Goriad Ardaloedd Gwledig i sefydlu neu ddatblygu prosiectau o dan reolaeth grwpiau cymunedol i wella safon byw neu gryfhau cynhwysedd yn y dre.

Bydd y grantiau yn medru ariannu 75% y gost o brosiectau cymwys sy’n costio hyd at £24,999. Mae’n bosibl hefyd bydd yn grant yn medru cael ei ddefnyddio i ariannu elfen arbennig o brosiect efo cost uwch.  Mae cyfanswm o £475,000 ar gael ac mi fydd yr arian yn cael ei gynnig i grwpiau ar y sail o gyntaf i ofyn.

Mae’r grant yn cael ei ariannu trwy Gynllun Datblygu Ardaloedd Gwledig Cymru 2007-2013 sydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewropeaidd Ar Gyfer Datblygu Ardaloedd Gweledig.

Caiff unrhyw grŵp gyda diddordeb fwy o fanylion trwy gysylltu efo Andrew Redfern yng Nghadwyn Clwyd ar 01824 705802 neu trwy e-bost at: Andrew.redfern@cadwynclwyd.co.uk

 

Posted on Jan 12, 2012 - 07:25 PM