Cwmni newydd am lansio prosiect egni yn Nhreffynnon
Mae Anturiaeth Gymunedol Gorllewin Sir y Fflint; cwmni antur gymdeithasol sydd wedi ei sefydlu yn Nhreffynnon efo cefnogaeth Cymunedau Cyntaf Treffynnon a’r Cyffiniau, wedi cael grant o £15,560 i ddechrau proses o asesu adeiladau cymunedol ar gyfer arbed egni a/neu'r potensial am fesurau egni adnewyddiadol.
Yn ogystal â lleihau costau biliau am egni i ddeliadau’r adeiladau hyn, mae’r prosiect hefyd yn gobeithio creu cyfleoedd hyfforddiant a swyddi. Y gobaith hefyd yw y bydd o’n bosibl creu ffynhonnell incwm trwy werthu trydan dros ben sydd yn cael ei gynhyrchu gan baneli solaraidd ac wedyn buddsoddi’r arian yn y gymuned.
Mae yna nifer o ddigwyddiadau i hysbysu a chael cefnogaeth y cyhoedd yn y prosiect hwn yn cael eu trefnu ac mi fydd yr un cyntaf yn cymryd lle ym Melin Celfyddydau a Chrefftau Treffynnon ar nos Lun 12 o Fawrth.