Atyniadau o Fewn ac o Amgylch Treffynnon

Pen y Maes Woods

Coed Pen y Maes

Mae Coed Pen y Maes yn goed lled-hynafol yn ymestyn hyd at tua 7½ hectar / 18 erw a leolwyd rhwng Treffynnon a Maesglas.  Mae’r coed yn le pleserus i’w ymweld unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond yn arbennig yn ystod y gwanwyn pan mae clychau’r gog yn blodeuo neu yn a hydref pan mae’r lle yn llawn o liwiau cochddu ag aur.

Mae’r fynedfa o Nant y Coed (CH8 7AZ) yn ardal Pen y Maes o’r dref ac o’r fan yna mae yna lwybr cyhoeddus yn ymdroelli trwy’r coed sy’n dod allan wrth yr A548 ffordd yr arfordir ym Maesglas, ddim ymhell oddi wrth Crescent Farm.

Mae’r coed hefyd yn lleoliad i safle daeareg o bwysigrwydd rhanbarthol a gosodwyd arddangosfwrdd yn agos i’r fan yn disgrifio ei bwysigrwydd ac y mae o’n le werth i’w weld yn ystod ymweliad i’r coed.

Mae Coed Pen y Maes yn cael ei reoli gan Grŵp Ffrindiau Coed Pen y Maes a gafodd ei sefydlu yn 2005 ac mae ei aelodau yn weithgar yn diogelu ei gymeriad naturiol ac yn gwarchod planhigion a bywyd gwyllt cynhenid y coed.

Enillodd y coed Wobr Gymunedol y Faner Wyrdd am 2011/2012 sy’n cydnabod ei fod o’n cael ei reoli’n dda, yn le croesawgar ac yn fan gwyrdd o safon uchel yn y dre a hyd at heddiw, y cred yw bod Coed Pen y Maes yr unig fan gwyrdd yn Sir y Fflint i dderbyn y cofleidiad hwn.

Ar ôl cyrraedd yr A548 ym Maesglas, mae ymwelwyr yn medru dilyn y ffordd i’r chwith am tua ½ cilomedr / ½ milltir a dychwelyd i Dreffynnon trwy Barc Treftadaeth Dyffryn Maesglas.  Mae hefyd yn bosibl ymuno gyda Llwybr Cerdded a Beicio Arfordirol Gogledd Cymru o’r fan hyn trwy troi i’r dde ar hyd yr A548 ac wedyn troi i’r chwith wrth y cylchfan a croesi y rheilffordd o Gaer i Gaergybi.

St Winefride’s Holy Well

Ffynnon Sanctaidd y Santes Gwenffrewi

Mae chwedl Santes Gwenffrwd yn adrodd hanes pennaeth lleol a blin yn 660OC a dorrodd ben y Gwenffrwd ifanc i ffwrdd ar ôl iddi wrthod ei gynigion. Mae’n dweud bod ffynnon wedi codi o’r ddaear yn y fan lle syrthiodd ei phen a bod ei hewythr, Sant Beuno, wedi rhoi ei bywyd yn ôl iddi.

Daeth y ffynnon yn adnabyddus am ei gallu i wella pobl a thrwy’r canrifoedd, ac hyd yn oed heddiw, mae pererinion yn teithio yma yn eu miloedd o bob rhan o’r byd i drochi yn ei dŵr ac addoli ger ei chysegrfa sydd wedi dod yn enwog fel Lourdes Cymru.

01352 713054

Ymweld â'r Wefan
Groes Onnen Windmill.

Felin Wynt Groes Onnen

Mae’n debygol a chafodd Felin Wynt Groes Onnen ei adeiladu yn hwyr yn ystod y 18fed Ganrif neu yn gynnar yn ystod y 19eg Ganrif ond wedi darfod i weithio fel melin erbyn y 1890au.  Mae’r felin wedi ei leoli yn ardal Pen y Maes o’r dre ac y mai’n dirnod lleol amlwg a hefyd enghraifft Cymraeg prin o felin wynt o uchder llawn yn dal i fod mewn bodolaeth. 

Cafodd y felin statws cofrestredig Safon II ym 1951 ac ers hynny mae’r adeilad wedi ei hadnewyddu a’i throi i gartref teuluol.

Cod Post: CH8 7BB

Maen Achwyfan

Maen Achwyfan

Mae’r maen hwn, sy’n mesur rhyw 12 troedfedd mewn uchder efo cerfiadau ar y paladr sy’n debyg iawn i grefftwaith Celtaidd a Llychynaidd, yn un o gofadaelau hynafol gafaelgar yn Sir y Fflint ac yr Groesolwyn dalaf ym Mhrydain yn ôl y sôn.

Mae haneswyr y gorffennol wedi methu â phenderfynu ar union reswm, achos a dyddiad y garreg yma ond y gred yw iddo gael ei godi tua 1000 O.C. i fod yn Faen Galaru.

Mae’r maen gafaelgar hwn i’w weld yn agos i bentref Chwitffordd rhyw dair milltir i’r gorllewin o Dreffynnon wrth groesffordd rhwng y pentref hwn a phentref Llanasa. 

Pen y Ball monument

Cofgolofn Pen y Bâl

Cafodd y gofgolofn hon, ar y fan uchaf o Allt Pen y Bâl, 820 o droedfeddi uwch y môr ac wedi ei naddu o garreg ardal Helygain, ei godi yn 1893 i goffau priodas y Dug Caerefrog roedd ar y pryd yr etifedd i frenhinfainc Lloegr.  Mae’r arysgrifen ar y garreg hefyd yn coffau o yn cael ei ddatgan fel y Brenin Siôr V yn 1910 â‘i ddathliad arian ym 1935.

O fan y gofgolofn, mae yna olygfeydd eang dros Gomin Brynffordd ac i gyfeiriad bryniau Clwyd ac Eryri.

Mae’r mynediad i’r gofgolofn, efo modur neu ar droed, i fyny allt serth oddi ar ffordd yr A5026,ag enwyd, Ffordd Parc y Fron, ble mae’r fodd yn mynd trwy Dreffynnon.

Cyfeirnod y Grid Cenedlaethol ar gyfer Cofgolofn Paen y Bâl yw: SJ177755. 

Greenfield Valley Heritage Park

Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas

Mae Parc Treftadaeth a Gwledig Dyffryn Maes Glas yn barc unionlin 1 ½ milltir ar ei hyd sy’n dilyn cwrs Nant Treffynnon rhwng y dref ac aber yr Afon Dyfrdwy, a thrwy hwn y rheda’r rheilffordd lled arferol gonfensiynol fwyaf serth yn y DU.

Yma, yn ogystal â Ffynnon Sanctaidd Santes Gwenffrwd ac Abaty Basingwerk o’r 12fed ganrif, mae gweddillion nifer o felinau hanesyddol, y mae nifer ohonynt yn henebion cofrestredig erbyn hyn

Yn fwy diweddar, mae bythynod, ffermdai ac hyd yn oed ysgol Fictoraidd wedi’u symud yma, carreg wrth garreg o leoliadau eraill. Cawsent eu hailadeiladu’n ofalus a’u dodrefnu fel y byddent wedi edrych efallai mewn canrifoedd a fu.

Mae gan y parc hefyd amgueddfa fferm ynghyd â pheiriannau, offer ac anifeiliaid y buarth, ac amgueddfa wedi’i neilltuo’n arbennig i’r naturiaethwr a’r fforiwr byd enwog a aned yn lleol, Thomas Pennant.

Gall ymwelwyr hefyd fwynhau nifer o deithiau cerdded sy’n ymlwybro drwy’r coed ac yn arwain at a heibio mannau picnic diarffordd a phum llyn bychan yn llawn adar gwyllt lle bydd cyfle i’r ymwelydd archwilio gweddillion melinau hanesyddol mewn ardal a oedd ar un cyfnod yn grud i’r chwyldro diwydiannol yng Ngogledd Cymru. O’r fan yma allforwyd pob math o nwyddau i bob rhan o’r byd.

01352 714172

Ymweld â'r Wefan
Pantasaph and its Franciscan community

Pantasaph a’i gymuned Ffransisgaidd

Ym mhentref Pantasaph, ychydig o filltiroedd i’r de o Dreffynnon, mae yna nifer o adeiladau Pabaidd Rhufeinig. Mae’r rhain yn cynnwys Eglwys Dewi Sant a adeiladwyd yn 1846 gan yr Is-iarll Fielding roedd nes ymlaen i ddod Iarll o Ddinbych, i goffáu ei briodas, Brodordy Ffransisgaidd a chanolfan encilio.

Cafodd y Brodordy Ffransisgaidd ag adeiladau cysylltiol eu hadeiladu gan Is-iarll Fielding rhwng 1858 â 1865 yn dilyn ei dröedigaeth i’r ffydd Babyddol.  Cafodd y gerddi eu gosod allan rhwng 1875 ag 1879.

Ar y bryn coedwigaidd tu nôl i’r brodordy mae Safleoedd y Groes yn portreadu siwrne Iesu Grist i Galfarî a adeiladwyd yn ystod ganol neu ddiwedd y 19eg ganrif. Caiff y rhain i’w gweld trwy ddilyn llwybr igam-ogam clir trwy’r coed ac maent yn cynnwys 14 o safleoedd wedi eu gosod allan mewn cilfachau.     

O ben y bryn mae yna olygfeydd dros dirlun dymunol i gyfeiriad y Môr Iwerddon.

Brodordy Ffransisgaidd Pantasaph yw’r Gysegrfa Genedlaethol y Sant Pio.

Y cod post ar gyfer yr ardal hon yw CH8 8PE.

01352 711053

Ymweld â'r Wefan
Greenfield Dock

Doc Maesglas

Doc Maesglas yw’r lle ble mae Nant Treffynnon, sy’n codi o Ffynnon Sanctaidd y Santes Gwenffrewi, yn llifo i mewn i aber yr Afon Ddyfrdwy ac y man ble,  yn yr amseroedd cynt, roedd bererinion o ogledd Lloegr ag ymhellach i ffrwd yn glanio cyn teithio fyny’r dyffryn i ymweld â’r gysegrfa sanctaidd hwn.

Yn dilyn llawer blwyddyn o ddiofalwch a ddiddefnydd, heblaw gan ychydig o bysgotwyr lleol, ychydig o flynyddoedd yn ôl cafodd y doc a’r tir o gwmpas ei rentu i Grŵp Doc Maesglas, sy’n cynnwys pysgotwyr a phreswylwyr lleol a phobol eraill yn awyddus o weld y doc yn cael ei adnewyddu. 

Ers hynny, mae yna waith adnewyddu sylweddol wedi cymryd ac yn dal i gymryd lle i wella safon y doc ac erbyn heddiw, gyda golygfeydd eang dros aber yr Afon Ddyfrdwy ag gorynys y Wirral, mae o’n le dymunol i ymweld.

Mae Llwybr Cerdded a Beicio Arfordirol Gogledd Cymru yn mynd heibio yn agos i’r doc hefyd.

I ddod o hyd i Doc Maesglas, pan rydych yn teithio ar hyd ffordd arfordirol yr A548 i mewn i Gymru i gyfeiriad y gorllewin, dilynwch gilffordd i’r dde ychydig o lathenau cyn cyrraedd y goleuadau traffig ar gyffordd yr A548 a’r B5121 sy’n dilyn i Dreffynnon. 

Panton Place

Panton Place

Adeiladwyd Panton Place ar gyfer Paul Panton y ieuengach (1758-1822) a Sirydd Sir y Fflint yn 1815. Cafodd yr 16 o dai eu hadeiladu i ddarparu cartrefi a llefydd gweithio ar gyfer pobol broffesiynol a masnachwyr lleol.

Dros y blynyddoedd cafodd y tai eu defnyddio am amryw o bwrpasau. Sefydlwyd Swyddfa Bost mewn un yn 1822 a chafodd o leiaf un tŷ ei ddefnyddio fel ysgol. Mae’r holl adeiladau wedi eu rhestru fel enghreifftiau pwysig o dai trefol o’r oes yna.

Rhestrwyd y tai fel rhai Gradd II in 1951 ac yn 1970 buddsoddodd Cyngor Trefol Treffynnon a’r Cyffiniau £65,000 i newid nhw i 28 o fflatiau un-lloft ar gyfer yr henoed a phobol fethedig, ac y mae yna lechen yna i gofnodi’r trawsnewid. 

Derbyniodd y prosiect gwobr adnewyddu gan y Royal Institute of Chartered Surveyors ym mis Mehefin 1971 sydd yn cael ei ddyfarnu yn flynyddol i gydnabod gorchestion eithriadol yn y maes o gadwraeth ag ychwanegiad yn yr amgylchedd adeiladol a naturiol.

Cod Post: CH8 7LD

Holywell Leisure Centre

Canolfan Hamdden Treffynnon

Mae Canolfan Hamdden Treffynnon yn un o’r canolfannau hamdden gorau yng Ngogledd Cymru ac mae’n cynnig amrywiaeth o gyfleusterau dan do ac awyr agored.

Mae’r rhain yn cynnwys pyllau nofio bach a phwll maint llawn a chyfle i chwarae sboncen, badminton, pêl raced, snwcer, tennis bwrdd, a llu o chwaraeon eraill.

Mae gan y ganolfan hamdden hefyd ystafell gadw’n heini, sawna, canolfan gwelyau haul a jacwsi yn ogystal â crèche, caffi a bar trwyddedig.

0845 603 2121

Ymweld â'r Wefan
Coed y Garreg Watchtower

Tŵr Gwylio Coed y Garreg

Mae Tŵr Gwylio Coed y Garreg wedi ei leoli ar y pwynt uchaf yng Nghoed y Garreg yn agos i bentref Chwitffordd*  tua thair milltir i’r gorllewin o Dreffynnon.

Mae rhai yn meddwl bod y tŵr crwn carreg hwn yn hen oleudy Rhufeinig wedi ei adeiladu i arwain llongau yn mordwyo aber yr Afon Ddyfrdwy.  Rhai eraill yn meddwl ei fod o’n dŵr gwylio wedi ei adeiladu i roi rhybudd am ymosodiadau gan forladron. 

Ar garreg wedi ei osod yn wal y tŵr, yn Saesneg, mae’r arysgrifen yn dweud bod y tŵr wedi ei adfer gan Llewelyn Barwn Mostyn i goffa 60 blwyddyn o deyrnasiad gogoneddus Fictoria brenhines ag ymerodres Mehefin 20fed 1897. 

Mae’n bosibl ymweld â’r twr ar hyd llwybrau cyhoeddus yn dechrau o bum cyfeiriad oddi ar lonydd distaw yn agos i bentref Chwitffordd, i gyd yn droadau pleserus dros gaeau a choed.  Yn agos i’r tŵr mae yna olygfeydd rhagorol i gyfeiriad bryniau Clwyd ac Eryri mewn un cyfeiriad a tuag at Cilgwri a bryniau Swydd Gaerhirfryn a bryniau Cymbria yn y cyfeiriad arall.

Cyfeirnod y Grid Cenedlaethol ar gyfer Tŵr Gwylio Coed y Garreg yw SJ146782. 

*Enw Cymraeg arall am bentref Chwitfordd yw ‘Rhydwen’.

Holywell Town Centre

Canol Tref Treffynnon

Yng nghanol ddi-draffig heddychlon a hynod y dref hanesyddol hon, gall ymwelwyr ymlacio a phrofi bywyd sydd bron â mynd yn angof erbyn hyn yn ein cymdeithas brysur a chyflym ni.

Yn y fan yma gallwch gerdded neu eistedd yn gyfforddus a rhyfeddu ar bensaernïaeth mwy na 60 o adeiladau rhestredig, gwylio ac efallai edmygu arafwch bywyd y bobl leol neu fwynhau edrych ar y cynnyrch sydd ar werth mewn bron i gant o siopau bach y mae’r mwyafrif ohonynt yn fusnesau teulu.

Dewch i ymweld â’r dref ar Ddydd Iau a gallwch hefyd fwynhau gweld marchnad stryd awyr agored liwgar ac, ar rai o Ddyddiau Sadwrn yn ystod yr haf cewch fwynhau adloniant cerddorion stryd sy’n cael eu denu yma oherwydd awyrgylch gyfeillgar a theuluol y dref.

I gael rhagor o wybodaeth gyffredinol, ffoniwch 01352 711757 / 01745 710333
I gael rhagor o wybodaeth am Farchnad Treffynnon ffoniwch 01352 703114 / 07919 166279

Fron Park

Parc y Fron

Dim ond tafliad carreg o ganol tref braf Treffynnon yw Parc y Fron a byddwch yn mynd iddo drwy gatiau haearn gyr hardd a godwyd i gofio am y dynion o Dreffynnon a laddwyd yn ystod y ddau ryfel byd. Mae’n llecyn heddychlon braf.

Yma gall ymwelwyr grwydro’r llwybrau sy’n ymlwybro heibio’r gwelyau blodau a thrwy’r llwyni, gallwch orffwys ennyd yn y gerddi coffa llawn blodau neu ymlacio wrth wylio neu hyd yn oed gymryd rhan mewn gêm hamddenol o fowlio neu dennis cyflym ar un o gyrtiau tennis y parc.

01352 712027

Memorial Gates

Giatiau Coffa

Cafodd y giatiau coffa, y rheiliau a’r colofnau cerrig yn cynnwys tabledi coffa a leolwyd yn fynediad o Panton Place i Barc y Fron eu codi ar ôl yr ail ryfel byd i anrhydeddu’r 110 o ddynion o Dreffynnon a chollodd eu bywydau yn ystod y ddau ryfel byd. 

Cod Post: CH8 7LD

Halkyn Mountain Common

Mynydd Comin Helygain

Mae Mynydd Comin Helygain yn wastatir uchel nodedig o ryw 1,800 erw are gyrion Treffynnon ac yn ymestyn rhwng y pentrefi o Rosesmor a Brynffordd efo hanes o fwyngloddio, chwarelu a phori yn mynd yn ôl i’r amseroedd Rhufeinig.

Mae’r tirlun heddiw yn adlewyrchiad o gamddefnyddio diwydiannol hwn ond, fel y mae natur wedi ailennill y rhan helaeth o’r tir, mae Mynydd Comin Helygain wedi datblygu i fod yn le poblogaidd i gerdded, i farchoga ag i wylio adar.

Mae Mynydd Comin Helygain nawr yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ag Ardal o Gadwraeth Arbennig.   

Am ragor o wybodaeth am Fynydd Comin Helygain, ewch i: http://www.halkyn.org

Naid y March – the horse’s leap

Naid y March

Naid y March yw’r lle ble ddigwyddodd naid enfawr gan farchogwr chwedlonol o’r 16eg ganrif a roddodd yr enw i’r ardal sydd yn dal i barhau tan heddiw.

Y chwedl yw, yn ystod y 1500au cynnar roedd Thomas Ap Harri ar ei ffordd adref efo rai o’i ffrindiau ar ôl bod yn hela ar Fynydd Helygain pan fentrodd nhw bod Harri a’i geffyl ddim yn medru neidio dros un o’r siafftau mwyngloddio roedd yn niferus yn yr ardal.

Yn ddewr, neu hwyrach wedi effeithio ar ôl cael diod feddwol neu ddau, derbyniodd Thomas y sialens ac mi neidiodd o a’i gyfyl dros y siafft y gamp wedyn yn cael ei goffáu trwy osod dau faen 25 o droedfedd o’i gilydd i ddangos o ble neidiodd a ble laniodd Thomas a’i geffyl. 

Cafodd ddau faen eu codi ble neidiodd Thomas a’i geffyl dros y siafft i nodi ei gamp ac erbyn heddiw mae’r digwyddiad yn rhan o hanes yr ardal.

Cyfeirnod y Grid Cenedlaethol ar Naid y March yw: SJ171752. 

 

Basingwerk Abbey

Abaty Dinas Basing

Roedd gweddillion mawreddog Abaty Basingwerk, a sefydlwyd yn 1132, yn gartref a gweithle am 400 o flynyddoedd i fynachod Urdd y Sistersiaid nes y cawsent eu gyrru oddi yno gan Ddeddf Diddymu Harri VIII yn 1536.

Yn ystod yr oesoedd canol, datblygodd cymuned economaidd ac artistig lewyrchus o amgylch yr abaty a daeth yn gartref i nifer o feirdd Cymreig.

Y mynachod oedd y cyntaf i harneisio pwer Nant Treffynnon, gan ddefnyddio ei ynni i falu ŷd a thrin gwlân eu preiddiau defaid.

01352 714172

Ymweld â'r Wefan