Pethau i wneud
BEICIO:
Nid oes lwybr beicio swyddogol yn pasio trwy Dreffynnon ond mae’n ffodus bod y dref wedi ei lleoli yng nghanol rhwydwaith o lonydd cul a distaw sy’n cysylltu’r dref efo tua dwsin o bentrefi darluniadol.
Mae’r lonydd yma yn pasio trwy ardaloedd gwledig heb ei ddifetha, rhai efo golygfeydd i gyfeiriad aber yr Afon Dyfrdwy ac ymhellach mewn un cyfeiriad a draw at fryniau Clwyd yn y cyfeiriad arall ac yn galluogi beicwyr i fwynhau ymchwilio a darganfod cefn gwlad Treffynnon mewn cyflymdra hamddenol.
Er bod y dref ddim yn cael ei wasanaethu gan lwybr beicio swyddogol, mae rhan o lwybr beicio genedlaethol Sustrans, sef Llwybr 5 yn pasio yn agos. I’r dwyrain mae’r rhan o’r llwybr hyn yn gadael yr arfordir ym Magillt ac yn dringo’n serth i Gomin Brynffordd, rhyw
700 troedfedd/213m uwch y môr ac yn pasio tua milltir o Dreffynnon cyn disgyn i uno a’r llwybr arfordirol unwaith eto yn ago i Ronant.
PYSGOTA:
Er bod ardal Treffynnon ddim yn enwog fel canolfan i bysgota fel rhai ardaloedd eraill of Gymru, mae yna nifer o lefydd i bysgota yn yr ardaloedd gwledig o gwmpas y dref yn cynnwys pysgota am bysgod bras, gem neu bysgod dwr hallt.
Un fantais fawr o bysgota mewn ardal sydd ddim yn enwog am bysgota wrth gwrs yw gweld llai o bysgotwyr eraill ac ar rai diwrnodau yn bosibl hyd yn oed i gael y bysgodfa i chi neu chi a ffrind yn unig.
Ar ben unigrwydd, mae yna ddau beth arall bydd pob pysgotwr sydd yn ymweld â’r ardal yn medru dibynnu ar. Y cyntaf yw’r sicrwydd bod pob pysgodfa yn llawn o bysgod gweddol fawr a rhai mawr ac i gyd yn ymladd yn gryf. Yr ail yw pysgota mewn amgylchiadau heddychol a darluniadol.
Pysgodfeydd pysgod bras
Pwll y Felin Blawd (CH8 7GH)
Parc Treftadaeth Dyffryn Maesglas. Tocynnau dyddiol a tymhorol ar gael. Tocynnau dyddiol ar gael o Ganolfan Ymwelwyr y parc, o Swyddfa Bost Maesglas neu wrth ochr y llyn. Mae’r math o bysgod i’w dal yn cynnwys: gwrachod y baw, rhuddgochiaid, draenogiaid, ysgretanod, cerpynnod cyffredin, cerpynnod ysbryd, cerpynnod gloyw, cerpynnod di-farf, merfogiaid a symlynnod.
Am ragor o fanylion, ymwelwch â: http://www.greenfieldvalley.com neu ffoniwch 01352 714172.
Pysgodfa Fferm Glasdir CH8 8BD
Y Nant, Pentre Helygain. Pwll cystadlaethau a phwll pysgod mawr. Mae’r math o bysgod ar gael yn cynnwys: cerpynnod gloyw, cerpynnod cyffredin, ysgretanod, gwrachod y baw a rhuddgochiaid. Mae taclau pysgota ag abwyd ar gael yna hefyd.
Am ragor o fanylion a sut i ddod o hyd i’r bysgodfa, ffoniwch 01352 781303.
Pysgodfa Carp Castell Gyrn (CH8 9BG)
Mae Pysgodfa Carp Castell Gyrn yn bentref Llanasa ger Treffynnon yn cynnwys dau lyn; un o dair erw a’r llall un erw. Y math o bysgod i’w dal yna yw: cerpynnod, draenogiaid, rhuddgochiaid ac ysgretanod.
Am ragor o fanylion a sut i ddod o hyd i’r lle, ffoniwch 01745 561672 neu 07765 076582, neu ewch i: http://www.gyrncastle.com
Pysgodfa Melin y Sarn (CH7 5RH)
Mae Pysgodfa Melin y Sarn, sy’n agos i ffordd A541 rhwng Nannerch ag Afonwen yn cynnwys pedwar llyn; dau yn dal pysgod bras a dau yn dal brithylliaid. Y math o bysgod bras i’w dal yna yw: cerpynnod, ysgretanod, gwrachod y baw a rhuddgochiaid.
Am ragor o fanylion ffoniwch 01352 720854 neu gyrrwch e-bost i: sarnmillfisheries@ukonline.co.uk <mailto:sarnmillfisheries@ukonline.co.uk>
Pysgodfeydd pysgod gêm
Forest Hill Fishery (CH8 9EQ)
Mae Forest Hill Fishery, yn agos i bentre Chwitffordd yn bysgodfa pedwar llyn. Mae’r llynnoedd wedi eu stocio efo brithylliaid dugoch a brithylliaid seithliw. Mae’r bysgodfa yn cynnig gwersi pysgota ag y mae yna siop fferm yna.
Am ragor o fanylion a sut i ddod o hyd i’r bysgodfa, ffoniwch: 01745 560151
Pysgodfa Melin y Sarn (CH7 5RH)
Mae Pysgodfa Melin y Sarn, sy’n agos i ffordd A541 rhwng Nannerch ag Afonwen yn cynnwys pedwar llyn; dau yn dal brithylliaid dugoch a brithylliaid seithliw a dau yn dal pysgod bras.
Am ragor o fanylion ffoniwch 01352 720854 neu gyrrwch e-bost i: sarnmillfisheries@ukonline.co.uk <mailto:sarnmillfisheries@ukonline.co.uk>
Seven Springs Fishery (CH7 5BZ)
Mae Pysgodfa Seven Springs yng Nghaerwys yn agos i Dreffynnon yn bysgodfa pedwar llyn. Mae’r llynnoedd i gyd wedi eu stocio efo brithylliaid seithliw.
Am ragor o fanylion, ffoniwch 01352 720511, gyrrwch e-bost i: info@sevenspringsfisheries.co.uk neu ewch i: http://www.sevenspringsfisheries.co.uk
Pysgodfa Wal Goch (CH7 5RP)
Mae Pysgodfa Wal Goch, oddi ar y ffordd A541 rhwng Wyddgrug a Dinbych yn agos i bentref Nannerch yn bysgodfa dau lyn. Mae’r ddau lyn wedi eu stocio efo brithylliaid dugoch a brithylliaid seithliw.
Am ragor o fanylion, ffoniwch: 01352 741378 neu 07860 351296, gyrrwch e-bost i: philip@walgochfishing.com neu ewch i: http://www.walgochfishing.com
Pysgota dŵr hallt
Aber yr Afon DdyfrdwyMae yna bysgota dŵr hallt bendigedig i gael yn aber yr Afon Ddyfrdwy, yn arbennig rhwng Fflint a Thalacre.
Y math o bysgod mae’n bosibl i ddal yn cynnwys: lledod brych, lledod bach, lledod y llaid, llyswennod, congrod, môr-wyniaid, penfreision, hyrddiaid, lledod chwithig a draenogod y môr.
Mae yna fynediad i lan yr afon i geir ag dros lwybrau troed oddi ar y ffordd yr arfordir yr A548 mewn nifer o leoliadau.
Yn Bwysig:
Er bod aber yr Afon Ddyfrdwy yn feithrinfa i ddraenogod y môr, nid yw’r gwaharddiad o bysgota am ddraenogod y môr mewn ardaloedd sydd wedi eu cael eu penodi fel methrinfeydd yn berthnasol i bysgota o’r lan. Er hynny, mae yna ddisgwyliad bydd pysgotwyr o’r lan yn parchu'r angen am gael y gwaharddiad hwn ac yn dychwelyd unrhyw ddraenogod y môr y meant yn dal yn yr ardal sydd wedi ei benodi fel meithrinfa draenogod y môr yn fyw i’r môr.
Er mwyn egluro'r ardal sydd wedi ei benodi fel meithrinfa draenogod y môr yn aber yr Afon Ddyfrdwy, mae o’r holl ddyfroedd llanŵaidd tu mewn i linell wedi ei ddylunio 213° yn gywir rhwng Pwynt Hilbre a Chei Mostyn.
GOLFF:
Clwb Golff Treffynnon (CH8 8LQ)
Cwrs 18 twll â leolwyd ar Gomin Brynfordd efo tŷ clwb croesawger ac arlwyo campus. Mae cerbydau golf ar gael ac y mae yna groeso i gymdeithasuau ac unigolion.
Am ragor o fanylion, ffoniwch: 01352 713937 gyrrwch e-bost i: info@holywellgc.co.uk neu ewch i www.holywellgc.co.uk
Clwb Golff Parc Pennant (CH8 9EP)
Cwrs 18 twll a leolwyd rhwng Treffynnon a pentre Chwitffordd efo maes ymarfer golf tŷ clwb. Mae aelodaeth ar agor ac mae yna groeso i ymwelwye, mae gymdeithasau yn sicr o groeso cynnes ac y mae lluniaeth ar gael trwy’r dydd. Mae cerbydau golf ar gael a gostyngiadau ar brisia chwarae golf ar ôl 4 o gloch.
Am ragor o fanylion yn cynnwys sut i ddod o hyd i’r lle, ffoniwch: 01745 563000 gyrrwch e-bost i: enquiries@pennant-park.co.uk neu ewch i: www.pennant-park.co.uk
Clwb Golff Kinsale (CH8 9DX).
Cwrs naw twll â leolwyd yn Llanerch-y-mor rhwng Treddynnon a pentref Mostyn. Mae cyfleusterau eraill yna yn cynnwys: maes ymarfer golff, maes trawsyrru 12 bae a byncer ymarfer. Mae yna nifer o gerbydai golff ar gael i’w llogi a mae yna luniaeth ar gael yn y tŷ clwb.
Am ragor o fanylion yn cynnwys sut i ddod o hyd i’r lle, ffoniwch: 01745 561080 neu ewch i
www.kinsalegolfclub@wordpress.com
Clwb Golff Caerwys (CH7 5AQ)
Cwrs naw twll a leolwyd yng Nghaerwys, tref fechan ryw chwe milltir i orllewin Treffynnon.
Am ragor o fanylion yn cynnwys sut i ddod o hyd i’r lle, ffoniwch: 01352 721222 neu gyrrwch e-bost i: caerwysgolf@live.co.uk
MARCHOGAETH:
Linden Farm Riding & Trekking Centre (CH8 8JT)
Mae Linden Farm Riding & Trekking Centre yn ganolfan marchogaeth a marchogol a leolwyd ym mhentref Rhes y Cae yn agos i Dreffynnon. Mae’r ganolfan yn cynnig gwersi marchogaeth, teithiau ar geffyllau ar gomin Helygain a chyfleusterau marchogol eraill yn cynnwys ystablu, cyfrwyo a lyfrai.
Am ragor o fanylion yn cynnwys sut i ddod o hyd i’r lle, ffoniwch: 01352 780539.
Bridalwood Riding Centre & Livery Yard (CH8 9JN)
Mae Bridalwood yn ganolfan hyfforddiant marchogeth a leolwyd ar Fferm Maes y Coed, Ty’n y Morfa, Gwespyr yn agos i Dreffynnon sy’n cynnig gwersi marchogaeth a hefyd nifer o wasanaethau eraill yn cynnwys stablu, cyfrwyo a lifrai.
Am ragor o fanylion yn cynnwys sut i ddod o hyd i’r lle, ffoniwch: 01745 888922 /889609 gyrrwch e-bost i: mail@bridlewood.co.uk neu ewch i: www.bridlewood.co.uk
Canolfan Marchogaeth Parc Pennant (CH8 9JN)
Lleolwyd Canolfan Marchogaeth Parc Pennant ar Lôn Llwyn Ifor, Chwitffordd ger Treffynnon ac yn ganolfan sy’n cynnig gwersi marchogaeth, hyfforddiant, marchogaeth yn y cefn gwlad a nifer o wasanaethau ceffylaidd eraill.
Am ragor o fanylion yn cynnwys sut i ddod o hyd i’r lle, ffoniwch: 01352 714986, gyrrwch e-bost i: enquiries@pennantparkridingcentre.com neu ewch i: www.pennantparkridingcentre.com
SAETHU:
Ysgol Saethu Helygain (CH8 8DH)
Mae Ysgol Saethu Helygain a leolwyd ar ffrem Pen-y-Parc, Pant Y Gôf yn agos i bentref Helygain yn cynnig cyfleoedd i saethu targedi clai fel ymarfer saethu neu fel cystadlaethau.
Am ragor o fanylion, ffoniwch: 01829 270458, gyrrwch e-bost i: sheila@shehowell.plus.com neu ewch i: www.halkynshootingschool.co.uk
CERDDED:
Mae ardal Treffynnon wedi ei gris-groesi gan rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus, llwybrau ceffylau a lonydd gweledig distaw ac ar fin yr 1,800 erw o Fynydd Comin Brynffordd ac Helygain.
Mae Cangen Treffynnon a’r Cyffinniau o Gymdeithas Croeso i Gerddwyr wedi paratoi pump taith cylch o’r dre. Mae manylion am y troeadau hyn i’w gweld ac i’w lawr lwytho o: http://www.holywellramblers.org.uk/f-Hwalks.htm
Mae manylion am droeadau eraill hefyd ar gael ar safleoedd: www.ramblersnorthwales.org.uk a Flintshire countryside
Mae gan Treffynnon ei chlwb ei hyn ar gyfer rhai efo diddordeb mewn cerdded, sef: Clwb Crwydro Treffynnon ac y mae manylion pellach ar gael trwy ymweld â www.holywellramblers.org.uk Mae’r clwb bywiog hwn yn ffynhonnell cyfoethog o wybodaeth defnyddiol ar gyfer unrhyw un efo diddordeb mewn cerdded yn lleol, trwy ogledd Cymru ac ymhellach i ffwrdd.
Mae Treffynnon hefyd, y man dechrau o Daith y Pererin; taith o 140m /225cm sy’n darfod ar Ynys Enlli yn ben draw Llŷn a’r lle ble mae Taith Treftadaidd Clawdd Wat; taith o 61m/90c sy’n dechrau yn agos i Lanymynech ym Mhowys yn darfod. Mae Llwybr Troed Arfordir Cymru yn mynd heibio’n agos i’r dref hefyd ac y mae yna fynediad i’r llwybr o Ddoc Maesglas tua dwy filltir o ganol tref Treffynnon. Mae yna gyswllt rhwng y doc a Threffynnon ar hyd lwybr sy'n rhedeg trwy Parc Treftadaeth Dyffryn Maesglas.
Mae gwybodaeth am Daith y Pererin argael trwy ymweld â: www.pilgrims-way-north-wales.org ac y mae gwybodaeth am Daith Treftadaidd Clawdd Wat ar gael trwy ymweld â: www.watsdykeway.org
Mae rhanau o’r ddau lwybr hirdaith hyn yn agos i Dreffynnon yn cynnig droeadau byr diddorol.
OS Explorer 265 ydi’r map sy’n dangos pob llwybr cyhoeddus yn ardal Treffynnon.
CYFFREDINOL:
North Wales SphereMania (CH8 8SN)
Mae ganolfan North Wales SphereMania yn safle hwyl teuluol â leolwyd ar Fferm Bryn Coch, Chwitffordd yn agos i Dreffynnon ac yn atyniad ble fedrwch fwynhau’r profiad o rhwlio ac adlamu lawr llethredd yn ddiogl tu mewn i bêl chwydd fawr.
Am ragor o fanylion , ffoniwch: 01745 343912 neu ewch i: www.spheremania.com
Chwaraeon pelipaent
Os hoffech gael profiad cyffrous o chwaraeon pelipaent, safle Go Ballistic yn agos i Helygain rhyw bedair milltir o Dreffynnon a ddim ond ychydig o lathau oddi ar ford gyflym yw’r A55 yw’r lle i fynd os ydych yn edrych rhywbeth gwahanol bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cofio.
Mae’r safle wedi ei leoli mewn 86 erw o goedwig wedi ei rannu i deg ardal chwarae themaidd er enghraifft Y Maes Awyr, Man Glanio Hofrenyddion a Fietnam, ble fyddwch chi a’r tîm yn medru cystadlu mewn dewis eang o weithredoedd bywiog a ffyrnig efo’ch ‘gelynion’.
Am fanylion pellach neu fwcio sesiwn ewch i: www.goballistic.co.uk Medrwch hefyd wneud ymholiadau a bwcio sesiwn trwy ffonio 0844 745 5000.