Treffynnon – Porth y Cerddwr i Gefnwlad Sir y Fflint

Treffynnon yw’r porth i rai o ardaloedd gwledig gorau Gogledd-ddwyrain Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys Comin Brynffordd a Helygain sy’n 1,800 erw, ynghyd â rhwydwaith o lwybrau cerdded cyhoeddus, llwybrau ceffyl a lonydd gwledig distaw sy’n cysylltu’r dref â phentrefi digyffwrdd yn ei chefnwlad. Mae cyfran fawr o’r ardal hon yn gyfarwydd i gerddwyr lleol ond heb ei archwilio gan unrhyw ymwelwyr eraill.
Mae Pwyllgor Croeso i Gerddwyr Treffynnon a’r Ardal wedi cyhoeddi cyfres gychwynnol o daflenni sy’n rhoi manylion pum taith gerdded sy’n cychwyn o’r dref ac mae’n bwriadu cyhoeddi mwy ohonynt. Gallwch lawrlwytho’r taflenni hyn o:
http://www.holywellramblers.org.uk/f-Hwalks.htm
Abaty Dinas Basing ym mhen gogleddol ac isaf Parc Etifeddiaeth Dyffryn Maesglas yw’r man ble mae Llwybr y Pererinion, taith newydd 140m/225cilomedr sydd yn darfod at Ynys Enlli ar ben draw’r Llŷn yn dechrau. Mae manylion pellach am y llwybr hirbell hŵyn ar gael trwy ymweld â: www.pilgrims-way-north-wales.org <http://www.pilgrims-way-north-wales.org>
Treffynnon hefyd yw’r fan ble mae llwybr hirbell 61milltir / 90cilomedr Taith Hanesyddol Clawdd Wat yn darfod. Cewch fanylion pellach am y llwybr hwn trwy ymweld â: www.watsdykeway.org http://www.watsdykeway.org
Gallwch weld manylion teithiau cerdded lleol eraill ar y gwefannau dilynol: